Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ
Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Rhagfyr 2021
Amser:
09.30 -
15.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12513
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Mike Hedges AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Dai Davies, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Calum Higgins, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Dr Christian Egeler, Cyfadran Meddygaeth Poen Richard Pugh, Cynghrair Canser Cymru Andy Glyde, Cynghrair Canser Cymru Mary Cowern, Cymru yn erbyn Arthritis Joseph Carter, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Asthma UK Elin Edwards, RNIB Cymru Gemma Roberts, Sefydliad Prydeinig y Galon Alyson Thomas, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Helen Twidle, Age Cymru Kate Young, Cynghrair Cynhalwyr Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Steven Williams (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AS ar gyfer rhan y
prynhawn o'r cyfarfod.
2 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
3 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda Chynghrair Canser Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cynghrair Canser Cymru.
3.2 Cytunodd
Andy Glyde i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o wybodaeth am
ble y dylid targedu adnoddau a buddsoddiad mewn gwasanaethau
canser.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch fframweithiau cyffredin
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.4 Ymateb gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-05-1045: dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
4.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.5 Llythyr gan Weinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.6 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.7 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
4.7 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6, 7 8 ac 11.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6 Ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafod y dull gweithredu
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynigion a nodwyd yn y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad hwn.
7 Strategaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dulliau arfaethedig o ddefnyddio, cyhoeddi a chyfathrebu strategaeth Pwyllgor y Chweched Senedd.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal: trafod yr adroddiad drafft
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.
9 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl â gwahanol gyflyrau iechyd
9.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynrychioli pobl
â gwahanol gyflyrau iechyd.
9.2 Cytunodd Gemma Roberts – Rheolwr Polisi a Materion
Cyhoeddus y British Heart Foundation – i ddarparu manylion y
rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol gyfrifiadurol a roddwyd ar
waith gan Lywodraeth yr Alban, er mwyn cynyddu cymorth i gleifion
sydd wedi'u gosod ar restr aros ar gyfer llawdriniaethau sy'n
gysylltiedig â chyflwr y galon.
10 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau sy’n cynrychioli llais y cleifion
10.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynrychioli lleisiau cleifion.
11 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth.
11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.